1. Cododd Jerwbbaal, sef Gideon, a'r holl bobl oedd gydag ef yn gynnar a gwersyllu ger ffynnon Harod. Yr oedd gwersyll Midian yn y dyffryn i'r gogledd o fryn More.
2. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Y mae gennyt ormod o bobl gyda thi imi roi Midian yn eu llaw, rhag i Israel ymfalchïo yn f'erbyn a dweud, ‘Fy llaw fy hun sydd wedi f'achub.’
3. Felly, cyhoedda yng nghlyw'r bobl, ‘Pwy bynnag sydd mewn ofn a dychryn, aed adref.’ ” Profodd Gideon hwy, a dychwelodd dwy fil ar hugain o'r bobl, gan adael deng mil ar ôl.
4. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Y mae gormod o bobl eto. Dos â hwy i lawr at y dŵr, a phrofaf hwy iti yno. Pan ddywedaf wrthyt, ‘Y mae hwn i fynd gyda thi’, bydd hwnnw'n mynd gyda thi; a phan ddywedaf, ‘Nid yw hwn i fynd gyda thi’, ni fydd yn mynd.”
5. Aeth Gideon â'r bobl i lawr at y dŵr, a dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Pob un sy'n llepian y dŵr â'i dafod fel y bydd ci'n llepian, gosod hwnnw ar wahân i'r rhai sy'n penlinio ac yn yfed trwy ddod â'u llaw at eu genau.”
6. Tri chant oedd nifer y rhai oedd yn llepian, a phawb arall yn penlinio i yfed dŵr.
7. Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Trwy'r tri chant sy'n llepian y byddaf yn eich achub, ac yn rhoi Midian yn dy law; caiff pawb arall fynd adref.”
8. Cymerodd Gideon biserau'r bobl a'r utgyrn oedd ganddynt, ac anfon yr Israeliaid i gyd adref, ond cadw'r tri chant. Yr oedd gwersyll Midian islaw iddo yn y dyffryn.
9. Y noson honno dywedodd yr ARGLWYDD wrth Gideon, “Cod, dos i lawr i'r gwersyll, oherwydd yr wyf yn ei roi yn dy law.
10. Os oes arnat ofn mynd, dos â Pura dy lanc gyda thi at y gwersyll,
11. a gwrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud; yna fe gryfheir dy law wedi iti fod i lawr yn y gwersyll.” Felly fe aeth ef a Pura ei lanc at ymyl y milwyr arfog yn y gwersyll.
12. Yr oedd y Midianiaid a'r Amaleciaid a'r holl ddwyreinwyr wedi disgyn ar y dyffryn fel haid o locustiaid; yr oedd eu camelod mor ddirifedi â thywod glan y môr.