Barnwyr 6:36-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Dywedodd Gideon wrth Dduw, “Os wyt am waredu Israel drwy fy llaw i, fel yr addewaist,

37. dyma fi'n gosod cnu o wlân ar y llawr dyrnu; os bydd gwlith ar y cnu yn unig, a'r llawr i gyd yn sych, yna byddaf yn gwybod y gwaredi Israel drwof fi, fel y dywedaist.”

38. Felly y bu. Pan gododd fore trannoeth a hel y cnu at ei gilydd, gwasgodd ddigon o wlith ohono i lenwi ffiol â'r dŵr.

39. Ond meddai Gideon wrth Dduw, “Paid â digio wrthyf os gofynnaf un peth arall; yr wyf am wneud un prawf arall â'r cnu: bydded y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.”

40. Gwnaeth Duw hynny y noson honno, y cnu'n unig yn sych, a gwlith ar y llawr i gyd.

Barnwyr 6