Barnwyr 5:8-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Pan ddewiswyd duwiau newydd,yna daeth brwydro i'r pyrth,ac ni welwyd na tharian na gwaywffonymhlith deugain mil yn Israel.

9. Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel,y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd.Bendithiwch yr ARGLWYDD.

10. “Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch,chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.

11. Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau,ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD,buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel,pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.

12. “Deffro, deffro, Debora!Deffro, deffro, lleisia gân!Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!

13. “Yna fe aeth y gweddill i lawr at y pendefigion,do, fe aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr ymysg y cedyrn.

14. Daeth rhai o Effraim a lledu drwy'r dyffryn,a gweiddi, ‘Ar dy ôl di, Benjamin, gyda'th geraint!’Aeth llywiawdwyr i lawr o Machir;ac o Sabulon, rhai'n cario gwialen swyddog.

15. Yr oedd tywysogion Issachar gyda Debora;bu Issachar yn ffyddlon i Barac,yn rhuthro i'r dyffryn ar ei ôl.Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

16. Pam yr arhosaist rhwng y corlannaui wrando ar chwiban bugeiliaid?Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

17. Arhosodd Gilead y tu hwnt i'r Iorddonen;a pham yr oedd Dan yn oedi ger y llongau?Arhosodd Aser ar lan y môr,ac oedi gerllaw ei gilfachau.

Barnwyr 5