5. Siglodd y mynyddoedd o flaen yr ARGLWYDD, Duw Sinai,o flaen ARGLWYDD Dduw Israel.
6. “Yn nyddiau Samgar fab Anath, ac yn nyddiau Jael, peidiodd y carafanau;aeth y teithwyr ar hyd llwybrau troellog.
7. Darfu am drigolion pentrefi,darfu amdanynt yn Israelnes i mi, Debora, gyfodi,nes i mi godi yn fam yn Israel.
8. Pan ddewiswyd duwiau newydd,yna daeth brwydro i'r pyrth,ac ni welwyd na tharian na gwaywffonymhlith deugain mil yn Israel.
9. Mae fy nghalon o blaid llywiawdwyr Israel,y rhai ymysg y bobl a aeth o'u gwirfodd.Bendithiwch yr ARGLWYDD.
10. “Ystyriwch, chwi sy'n marchogaeth asynnod melyngoch,chwi sy'n eistedd ar gyfrwyau, chwi sy'n cerdded y ffordd.
11. Clywch y rhai sy'n disgwyl eu tro ger y ffynhonnau,ac yno'n adrodd buddugoliaethau'r ARGLWYDD,buddugoliaethau ei bentrefwyr yn Israel,pan aeth byddin yr ARGLWYDD i lawr i'r pyrth.
12. “Deffro, deffro, Debora!Deffro, deffro, lleisia gân!Cyfod, Barac! Cymer lu o garcharorion, ti fab Abinoam!