23. “ ‘Melltigwch Meros,’ medd angel yr ARGLWYDD,‘melltigwch yn llwyr ei thrigolion,am na ddaethant i gynorthwyo'r ARGLWYDD,i gynorthwyo'r ARGLWYDD gyda'r gwroniaid.’
24. Bendigedig goruwch gwragedd fyddo Jael, gwraig Heber y Cenead;bendithier hi uwch gwragedd y babell.
25. Am ddŵr y gofynnodd ef, estynnodd hithau laeth;mewn llestr pendefigaidd cynigiodd iddo enwyn.
26. Estynnodd ei llaw at yr hoelen,a'i deheulaw at ordd y llafurwyr;yna fe bwyodd Sisera a dryllio'i ben,fe'i trawodd a thrywanu ei arlais.
27. Rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd, gorweddodd;rhwng ei thraed fe grymodd, syrthiodd;lle crymodd, yno fe syrthiodd yn gelain.
28. “Edrychai mam Sisera trwy'r ffenestra llefain trwy'r dellt:‘Pam y mae ei gerbyd yn oedi?Pam y mae twrf ei gerbydau mor hir yn dod?’
29. Atebodd y ddoethaf o'i thywysogesau,ie, rhoes hithau'r ateb iddi ei hun,
30. ‘Onid ydynt yn cael ysbail ac yn ei rannu—llances neu ddwy i bob un o'r dynion,ysbail o frethyn lliw i Sisera, ie, ysbail o frethyn lliw,darn neu ddau o frodwaith am yddfau'r ysbeilwyr?’