Barnwyr 5:16-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Pam yr arhosaist rhwng y corlannaui wrando ar chwiban bugeiliaid?Ymysg y rhaniadau yn Reuben yr oedd petruster mawr.

17. Arhosodd Gilead y tu hwnt i'r Iorddonen;a pham yr oedd Dan yn oedi ger y llongau?Arhosodd Aser ar lan y môr,ac oedi gerllaw ei gilfachau.

18. Pobl a fentrodd eu heinioes hyd angau oedd Sabulona Nafftali hefyd, ar uchelfannau maes y gad.

19. “Daeth brenhinoedd ac ymladd;fe ymladdodd brenhinoedd Canaanyn Taanach ger dyfroedd Megido,ond heb gymryd ysbail o arian.

20. O'r nef ymladdodd y sêr,ymladd o'u cylchoedd yn erbyn Sisera.

21. ‘Ysgubodd nant Cison hwy ymaith,cododd llif nant Cison yn eu herbyn.Fy enaid, cerdda ymlaen mewn nerth.

Barnwyr 5