Barnwyr 4:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl i Ehud farw, gwnaeth yr Israeliaid unwaith eto yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.

2. Felly gwerthodd yr ARGLWYDD hwy i law Jabin brenin Canaan, a oedd yn teyrnasu yn Hasor. Capten ei fyddin oedd Sisera, a oedd yn byw yn Haroseth y Cenhedloedd.

3. Yr oedd ganddo naw cant o gerbydau haearn, a bu'n gorthrymu'r Israeliaid yn galed am ugain mlynedd; am hynny gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD.

4. Proffwydes o'r enw Debora gwraig Lappidoth oedd yn barnu Israel yr adeg honno.

5. Byddai'n eistedd dan balmwydden Debora, rhwng Rama a Bethel ym mynydd-dir Effraim, a byddai'r Israeliaid yn mynd ati am farn.

Barnwyr 4