10. Daeth ysbryd yr ARGLWYDD arno, a barnodd Israel a mynd allan i ryfela, a rhoddodd yr ARGLWYDD yn ei law Cusan-risathaim, brenin Aram, ac fe'i trechodd.
11. Yna cafodd y wlad lonydd am ddeugain mlynedd, nes i Othniel fab Cenas farw.
12. Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a nerthodd ef Eglon brenin Moab yn eu herbyn am iddynt wneud yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD.
13. Casglodd Eglon yr Ammoniaid a'r Amaleciaid ato, ac ymosododd ar Israel a meddiannu Dinas y Palmwydd.
14. Bu'r Israeliaid yn gwasanaethu Eglon brenin Moab am ddeunaw mlynedd.
15. Yna gwaeddodd yr Israeliaid ar yr ARGLWYDD, a chododd ef achubwr iddynt, sef Ehud fab Gera, Benjaminiad a dyn llawchwith; ac anfonodd yr Israeliaid gydag ef deyrnged i Eglon brenin Moab.
16. Yr oedd Ehud wedi gwneud cleddyf daufiniog, cufydd o hyd, a'i wregysu ar ei glun dde, o dan ei ddillad.
17. Cyflwynodd y deyrnged i Eglon brenin Moab, a oedd yn ddyn tew iawn.
18. Ar ôl gorffen cyflwyno'r deyrnged, anfonodd ymaith y bobl a fu'n cario'r deyrnged,
19. ond dychwelodd Ehud ei hun oddi wrth y colofnau ger Gilgal a dweud, “Y mae gennyf neges gyfrinachol iti, O frenin.”
20. Galwodd yntau am dawelwch, ac aeth pawb oedd yn sefyll o'i gwmpas allan. Yna nesaodd Ehud ato, ac yntau'n eistedd wrtho'i hunan mewn ystafell haf oedd ganddo ar y to, a dywedodd, “Gair gan Dduw sydd gennyf iti.” Cododd yntau oddi ar ei sedd.
21. Yna estynnodd Ehud ei law chwith, cydiodd yn y cleddyf oedd ar ei glun dde, a'i daro i fol Eglon,
22. nes bod y carn yn mynd i mewn ar ôl y llafn, a'r braster yn cau amdano. Ni thynnodd y cleddyf o'i fol, a daeth allan y tu cefn.
23. Yna aeth Ehud allan trwy'r cyntedd a chau drysau'r ystafell arno a'u cloi.