1. Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn i brofi'r Israeliaid oedd heb gael unrhyw brofiad o ryfeloedd Canaan, a hynny er mwyn i genedlaethau Israel gael profiad,
2. ac er mwyn dysgu'r rhai nad oedd ganddynt brofiad blaenorol sut i ryfela.
3. Gadawyd pum arglwydd y Philistiaid, y Canaaneaid oll, y Sidoniaid, a'r Hefiaid oedd yn byw ar fynydd-dir Lebanon o Fynydd Baal-hermon hyd Lebo-hamath.
4. Yr oeddent yno i'r ARGLWYDD brofi Israel drwyddynt, a chael gwybod a fyddent yn ufuddhau i'r gorchmynion a roddodd ef i'w hynafiaid trwy Moses.
5. Ymgartrefodd yr Israeliaid ymysg y Canaaneaid, Hethiaid, Amoriaid, Peresiaid, Hefiaid a Jebusiaid;
6. a chymerasant eu merched hwy yn wragedd, a rhoi eu merched eu hunain i'w meibion hwy, ac addoli eu duwiau.