Barnwyr 3:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn i brofi'r Israeliaid oedd heb gael unrhyw brofiad o ryfeloedd Canaan, a hynny er mwyn i genedlaethau Israel gael profiad,

2. ac er mwyn dysgu'r rhai nad oedd ganddynt brofiad blaenorol sut i ryfela.

3. Gadawyd pum arglwydd y Philistiaid, y Canaaneaid oll, y Sidoniaid, a'r Hefiaid oedd yn byw ar fynydd-dir Lebanon o Fynydd Baal-hermon hyd Lebo-hamath.

Barnwyr 3