4. Trannoeth, wedi i'r bobl godi'n fore, codasant yno allor ac aberthu poethoffrymau a heddoffrymau.
5. Yna dywedodd yr Israeliaid, “Pwy o holl lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i'r cynulliad?” Oherwydd yr oedd llw difrifol wedi ei dyngu y byddai'r sawl na ddôi i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa yn sicr o gael ei roi i farwolaeth.
6. Gofidiodd yr Israeliaid am eu perthynas Benjamin, a dweud, “Y mae un llwyth wedi ei dorri allan o Israel heddiw.
7. Beth a wnawn ni dros y dynion sydd ar ôl, a ninnau wedi tyngu i'r ARGLWYDD na roddem iddynt yr un o'n merched yn wraig?”
8. Ac meddent, “Prun o lwythau Israel sydd heb ddod i fyny at yr ARGLWYDD i Mispa?” Nid oedd neb o Jabes-gilead wedi dod i'r gwersyll i'r cynulliad.
9. Pan gyfrifwyd y bobl, nid oedd yno neb o drigolion Jabes-gilead.