Barnwyr 20:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Atebodd y Lefiad, sef gŵr y ddynes a lofruddiwyd, “Yr oeddwn i a'm gordderch wedi mynd i Gibea Benjamin i letya;

5. yna cododd dinasyddion Gibea yn f'erbyn ac amgylchynu'r tŷ liw nos, gan fwriadu fy lladd; treisiwyd fy ngordderch, a bu hi farw o'r herwydd.

6. Cymerais innau hi a'i thorri'n ddarnau a'u hanfon drwy bob rhan o diriogaeth Israel, oherwydd y mae'r treiswyr hyn wedi gwneud anlladrwydd ffiaidd yn Israel.

7. Chwi oll, bobl Israel, mynegwch eich barn a'ch cyngor yma'n awr.”

Barnwyr 20