5. Am hynny enwyd y lle hwnnw Bochim; ac offrymasant yno aberth i'r ARGLWYDD.
6. Gollyngodd Josua y bobl ac aeth pob un o'r Israeliaid i'w etifeddiaeth i gymryd meddiant o'r wlad.
7. Addolodd y bobl yr ARGLWYDD holl ddyddiau Josua, a holl ddyddiau'r henuriaid oedd wedi goroesi Josua ac wedi gweld yr holl waith mawr a wnaeth yr ARGLWYDD dros Israel.
8. Bu farw Josua fab Nun, gwas yr ARGLWYDD, yn gant a deg oed,
9. a chladdwyd ef o fewn terfynau ei etifeddiaeth, yn Timnath-heres ym mynydd-dir Effraim, i'r gogledd o Fynydd Gaas.
10. Casglwyd yr holl genhedlaeth honno at eu hynafiaid, a chododd cenhedlaeth arall ar eu hôl, nad oedd yn adnabod yr ARGLWYDD na chwaith yn gwybod am yr hyn a wnaeth dros Israel.
11. Gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD; aethant i addoli'r Baalim,
12. gan adael yr ARGLWYDD, Duw eu hynafiaid, a'u dygodd allan o wlad yr Aifft, a mynd ar ôl duwiau estron o blith duwiau'r cenhedloedd oedd o'u cwmpas, ac ymgrymu iddynt hwy, a digio'r ARGLWYDD.
13. Gadawsant yr ARGLWYDD ac addoli Baal ac Astaroth.
14. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a rhoddodd hwy yn llaw rhai a fu'n eu hanrheithio, a gwerthodd hwy i law eu gelynion oddi amgylch, fel nad oeddent bellach yn medru gwrthsefyll eu gelynion.
15. I ble bynnag yr aent, yr oedd llaw yr ARGLWYDD yn eu herbyn er drwg, fel yr oedd wedi addo a thyngu iddynt. Ac aeth yn gyfyng iawn arnynt.
16. Yna fe gododd yr ARGLWYDD farnwyr a'u hachubodd o law eu hanrheithwyr.