Barnwyr 2:18-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Pan fyddai'r ARGLWYDD yn codi barnwr iddynt, byddai ef gyda'r barnwr ac yn eu gwaredu o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr hwnnw; oherwydd byddai'r ARGLWYDD yn tosturio wrthynt yn eu griddfan o achos eu gormeswyr a'u cystuddwyr.

19. Eto, pan fyddai farw'r barnwr, yn ôl yr aent ac ymddwyn yn fwy llygredig na'u hynafiaid, gan fynd ar ôl duwiau estron i'w haddoli ac ymgrymu iddynt, heb roi heibio yr un o'u harferion na'u ffyrdd gwrthnysig.

20. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a dywedodd, “Am i'r genedl hon droseddu fy nghyfamod a orchmynnais i'w hynafiaid, heb wrando ar fy llais,

21. nid wyf finnau am ddisodli o'u blaen yr un o'r cenhedloedd a adawodd Josua pan fu farw.”

22. Gadawyd hwy i brofi'r Israeliaid, i weld a fyddent yn cadw ffordd yr ARGLWYDD ai peidio, ac yn rhodio ynddi fel y gwnaeth eu hynafiaid.

23. Gadawodd yr ARGLWYDD y cenhedloedd hyn heb eu disodli ar unwaith, na'u rhoi yn llaw Josua.

Barnwyr 2