13. Gadawsant yr ARGLWYDD ac addoli Baal ac Astaroth.
14. Cyneuodd llid yr ARGLWYDD yn erbyn Israel, a rhoddodd hwy yn llaw rhai a fu'n eu hanrheithio, a gwerthodd hwy i law eu gelynion oddi amgylch, fel nad oeddent bellach yn medru gwrthsefyll eu gelynion.
15. I ble bynnag yr aent, yr oedd llaw yr ARGLWYDD yn eu herbyn er drwg, fel yr oedd wedi addo a thyngu iddynt. Ac aeth yn gyfyng iawn arnynt.
16. Yna fe gododd yr ARGLWYDD farnwyr a'u hachubodd o law eu hanrheithwyr.
17. Eto nid oeddent yn gwrando hyd yn oed ar eu barnwyr, ond yn hytrach yn puteinio ar ôl duwiau estron ac yn ymgrymu iddynt, gan gefnu'n fuan ar y ffordd a gerddodd eu hynafiaid mewn ufudd-dod i orchmynion yr ARGLWYDD; ni wnaent hwy felly.
18. Pan fyddai'r ARGLWYDD yn codi barnwr iddynt, byddai ef gyda'r barnwr ac yn eu gwaredu o law eu gelynion holl ddyddiau y barnwr hwnnw; oherwydd byddai'r ARGLWYDD yn tosturio wrthynt yn eu griddfan o achos eu gormeswyr a'u cystuddwyr.