Barnwyr 19:10-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Ond ni fynnai'r dyn aros; cododd, a mynd gyda'i ddau asyn llwythog, a'i ordderch, a'i was, nes dod gyferbyn â Jebus, hynny yw Jerwsalem.

11. A phan oeddent yn ymyl Jebus, a'r dydd yn darfod, dywedodd y gwas wrth ei feistr, “Tyrd yn awr, gad inni droi i mewn yma i ddinas y Jebusiaid, a threulio'r nos ynddi.”

12. Ond atebodd ei feistr, “Nid awn i mewn i ddinas estron lle nad oes Israeliaid; fe awn cyn belled â Gibea.”

13. Ac meddai wedyn wrth ei was, “Tyrd, fe awn cyn belled â Gibea neu Rama, a threulio'r nos yn un ohonynt.”

Barnwyr 19