Barnwyr 17:8-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. ac wedi iddo adael tref Bethlehem Jwda i fyw ymhle bynnag y câi le, digwyddodd ddod ar ei daith i fynydd-dir Effraim ac i dŷ Mica.

9. Gofynnodd Mica iddo, “O ble'r wyt ti'n dod?” Atebodd yntau, “Lefiad wyf fi o Fethlehem Jwda, ac rwyf am aros ymhle bynnag y caf le.”

10. Ac meddai Mica wrtho, “Aros gyda mi, a bydd yn dad ac yn offeiriad i mi. Rhoddaf finnau iti ddeg darn arian y flwyddyn, dy ddillad a'th fwyd.”

11. Cytunodd y llanc o Lefiad i fyw gyda'r dyn, a bu fel un o'i feibion.

Barnwyr 17