Barnwyr 16:28-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

28. Yna galwodd Samson ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd DDUW, cofia fi, a nertha fi'r tro hwn yn unig, O Dduw, er mwyn imi gael dial unwaith am byth ar y Philistiaid am fy nau lygad.”

29. Ymestynnodd Samson at y ddwy golofn ganol oedd yn cynnal y deml, a phwyso arnynt, ei law dde ar un a'i law chwith ar y llall.

30. Yna dywedodd, “Bydded i minnau farw gyda'r Philistiaid!” Gwthiodd yn nerthol, a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a'r holl bobl oedd ynddi, ac felly lladdodd Samson fwy wrth farw nag a laddodd yn ystod ei fywyd.

31. Aeth ei frodyr a'i holl deulu i lawr i'w gymryd ef a'i gludo oddi yno, a'i gladdu rhwng Sora ac Estaol ym medd ei dad Manoa. Bu'n farnwr ar Israel am ugain mlynedd.

Barnwyr 16