20. Dywedodd, “Y mae'r Philistiaid ar dy warthaf, Samson!” Deffrôdd ef o'i gwsg gan feddwl, “Af allan fel o'r blaen ac ymryddhau.” Ni wyddai fod yr ARGLWYDD wedi cefnu arno.
21. Daliodd y Philistiaid ef, a thynnu ei lygaid, a mynd ag ef i lawr i Gasa a'i rwymo mewn gefynnau; a bu'n malu blawd yn y carchardy.
22. Ond dechreuodd ei wallt dyfu eto ar ôl ei eillio.
23. Daeth arglwyddi'r Philistiaid ynghyd mewn llawenydd i offrymu aberth mawr i'w duw Dagon a dweud:“Rhoddodd ein duw yn ein dwyloein gelyn Samson.”
24. A phan welodd y bobl ef, rhoesant foliant i'w duw a dweud:“Rhoddodd ein duw yn ein dwyloein gelyn ac anrheithiwr ein gwlad,a amlhaodd ein celaneddau.”
25. Pan oeddent yn llawn hwyliau dywedasant, “Galwch Samson i'n difyrru.” Galwyd Samson o'r carchardy, a gwnaeth hwyl iddynt; a rhoddwyd ef i sefyll rhwng y colofnau.
26. Dywedodd Samson wrth y bachgen oedd yn gafael yn ei law, “Rho fi lle y gallaf deimlo'r colofnau sy'n cynnal y deml, imi gael pwyso arnynt.”
27. Yr oedd y deml yn llawn o ddynion a merched; yr oedd holl arglwyddi'r Philistiaid yno hefyd, a thua thair mil o bobl ar y to yn edrych ar Samson yn eu difyrru.