Barnwyr 15:12-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yna dywedasant, “Yr ydym ni wedi dod yma i'th rwymo a'th roi yn llaw'r Philistiaid.” Dywedodd Samson wrthynt, “Ewch ar eich llw na wnewch chwi niwed imi.”

13. Dywedodd y gwŷr, “Na, dim ond dy rwymo a wnawn, a'th drosglwyddo iddynt hwy; yn sicr, nid ydym am dy ladd.” Yna rhwymasant ef â dwy raff newydd, a mynd ag ef o'r graig.

14. Pan gyrhaeddodd Lehi, a'r Philistiaid yn bloeddio wrth ei gyfarfod, disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD arno, aeth y rhaffau oedd am ei freichiau fel llinyn wedi ei ddeifio gan dân, a syrthiodd ei rwymau oddi am ei ddwylo.

15. Cafodd ên asyn, a honno heb sychu; gafaelodd ynddi â'i law, a lladd mil o ddynion.

16. Ac meddai Samson:“Â gên asyn rhois iddynt gurfa asyn;â gên asyn lleddais fil o ddynion.”

17. Wedi iddo orffen dweud hyn, taflodd yr ên o'i law, a galwyd y lle hwnnw Ramath-lehi.

18. Yr oedd syched mawr arno, a galwodd ar yr ARGLWYDD a dweud, “Ti a roddodd y fuddugoliaeth fawr hon i'th was, ond a wyf yn awr i drengi o syched, a syrthio i afael y rhai dienwaededig?”

19. Holltodd Duw y ceubwll sydd yn Lehi, a ffrydiodd dŵr ohono; wedi iddo yfed, adferwyd ei ysbryd ac adfywiodd. Am hynny enwodd y ffynnon En-haccore; y mae yn Lehi hyd heddiw.

20. Bu Samson yn farnwr ar Israel am ugain mlynedd yng nghyfnod y Philistiaid.

Barnwyr 15