Barnwyr 14:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Ni wyddai ei dad a'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, ac mai ceisio achos yn erbyn y Philistiaid yr oedd ef. Yr adeg honno y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu ar Israel.

5. Aeth Samson i lawr gyda'i dad a'i fam i Timna, a phan gyrhaeddodd winllannoedd Timna, daeth llew ifanc i'w gyfarfod dan ruo.

6. Disgynnodd ysbryd yr ARGLWYDD ar Samson, a holltodd y llew ifanc fel hollti myn, heb ddim yn ei law; ond ni ddywedodd wrth ei rieni beth a wnaeth.

7. Yna aeth Samson yn ei flaen i siarad gyda'r ferch, a'i chael wrth ei fodd.

8. Pan ddychwelodd ymhen amser i'w phriodi, trodd i edrych ar ysgerbwd y llew, a dyna lle'r oedd haid o wenyn a mêl y tu mewn i'r corff.

Barnwyr 14