1. Aeth Samson i Timna, ac yno sylwodd ar un o ferched y Philistiaid.
2. Pan ddychwelodd, dywedodd wrth ei dad a'i fam, “Yr wyf wedi gweld un o ferched y Philistiaid yn Timna; cymerwch honno'n wraig imi.”
3. Ac meddai ei dad a'i fam wrtho, “Onid oes gwraig iti ymhlith merched dy gymrodyr a'th holl geraint? Pam yr ei i geisio gwraig o blith y Philistiaid dienwaededig?” Ond dywedodd Samson wrth ei dad, “Cymer honno imi, oherwydd hi sydd wrth fy modd.”
4. Ni wyddai ei dad a'i fam mai oddi wrth yr ARGLWYDD yr oedd hyn, ac mai ceisio achos yn erbyn y Philistiaid yr oedd ef. Yr adeg honno y Philistiaid oedd yn arglwyddiaethu ar Israel.