7. Fe ddywedodd wrthyf, ‘Byddi'n beichiogi ac yn geni mab; felly paid ag yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan, oherwydd bydd y bachgen yn Nasaread i Dduw o'r groth hyd ddydd ei farw.’ ”
8. Gweddïodd Manoa ar yr ARGLWYDD a dweud, “O Arglwydd, os gweli'n dda, gad i'r gŵr Duw a anfonaist ddod yn ôl atom i'n cyfarwyddo beth i'w wneud i'r bachgen a enir.”
9. Gwrandawodd Duw ar gais Manoa, a daeth angel Duw eto at y wraig, pan oedd hi'n eistedd allan yn y maes, a'i gŵr Manoa heb fod gyda hi.
10. Rhedodd hithau ar unwaith a dweud wrth ei gŵr, “Y mae'r dyn a ddaeth ataf y diwrnod hwnnw wedi ymddangos eto.”
11. Cododd Manoa a dilynodd ei wraig at y dyn a gofyn iddo, “Ai ti yw'r gŵr a fu'n siarad gyda'm gwraig?” Ac meddai yntau, “Ie.”
12. Gofynnodd Manoa iddo, “Pan wireddir dy air, sut fachgen fydd ef, a beth fydd ei waith?”
13. Dywedodd angel yr ARGLWYDD wrth Manoa, “Rhaid i'th wraig ofalu am bopeth a ddywedais wrthi;
14. nid yw hi i fwyta dim a ddaw o'r winwydden, nac i yfed na gwin na diod gadarn, na bwyta dim aflan.
15. Y mae i gadw'r cwbl a orchmynnais iddi.” Yna dywedodd Manoa wrth angel yr ARGLWYDD, “Yr ydym am dy gadw yma nes y byddwn wedi paratoi myn gafr ar dy gyfer.”