Barnwyr 13:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Unwaith eto gwnaeth yr Israeliaid yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr ARGLWYDD, a rhoddodd yr ARGLWYDD hwy yn llaw'r Philistiaid am ddeugain mlynedd.

2. Yr oedd rhyw ddyn o'r enw Manoa o Sora, o lwyth Dan, ac yr oedd ei wraig yn ddi-blant, heb eni yr un plentyn.

3. Ymddangosodd angel yr ARGLWYDD i'r wraig a dweud wrthi, “Dyma ti yn ddi-blant, heb eni plentyn, ond byddi'n beichiogi ac yn geni mab.

4. Felly, gwylia rhag yfed gwin na diod gadarn, a phaid â bwyta dim aflan,

Barnwyr 13