Barnwyr 12:10-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Pan fu Ibsan farw, claddwyd ef ym Methlehem.

11. Ar ei ôl ef bu Elon o Sabulon yn farnwr ar Israel am ddeng mlynedd.

12. Pan fu Elon o Sabulon farw, claddwyd ef yn Ajalon yn nhir Sabulon.

13. Ar ei ôl ef bu Abdon fab Hilel o Pirathon yn farnwr ar Israel.

14. Yr oedd ganddo ef ddeugain mab a deg ar hugain o wyrion yn marchogaeth ar ddeg asyn a thrigain. Bu'n farnwr ar Israel am wyth mlynedd.

15. Pan fu Abdon fab Hilel o Pirathon farw, claddwyd ef yn Pirathon yn nhir Effraim, ym mynydd yr Amaleciaid.

Barnwyr 12