8. Ac meddent hwythau wrtho, “Dyna pam y daethom atat yn awr. Tyrd yn ôl gyda ni ac ymladd â'r Ammoniaid, a chei fod yn ben ar holl drigolion Gilead.”
9. Dywedodd Jefftha wrth henuriaid Gilead, “Os byddwch yn fy nghymryd yn ôl i ymladd â'r Ammoniaid, a'r ARGLWYDD yn eu rhoi yn fy llaw, yna byddaf yn ben arnoch.”
10. Dywedodd henuriaid Gilead wrth Jefftha, “Bydd yr ARGLWYDD yn dyst rhyngom y gwnawn yn ôl dy air.”
11. Aeth Jefftha gyda henuriaid Gilead, a gwnaeth y fyddin ef yn ben ac yn arweinydd arnynt, ac adroddodd Jefftha gerbron yr ARGLWYDD yn Mispa bopeth yr oedd wedi ei gytuno.
12. Anfonodd Jefftha negeswyr at frenin yr Ammoniaid a dweud, “Beth sydd gennyt yn f'erbyn, dy fod wedi dod i ymosod ar fy ngwlad?”
13. Dywedodd brenin yr Ammoniaid wrth negeswyr Jefftha, “Pan ddaeth Israel i fyny o'r Aifft, meddiannodd fy ngwlad rhwng nentydd Arnon a Jabboc, hyd at yr Iorddonen; felly dyro hi'n ôl yn awr yn heddychol.”
14. Anfonodd Jefftha negeswyr eto at frenin yr Ammoniaid
15. i ddweud wrtho, “Dyma a ddywed Jefftha: ‘Ni chymerodd Israel dir Moab na thir yr Ammoniaid;
16. oherwydd pan ddaethant i fyny o'r Aifft, fe aeth Israel trwy'r anialwch hyd at y Môr Coch nes dod i Cades.