Barnwyr 10:14-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

14. Ewch a galwch ar y duwiau yr ydych wedi eu dewis; bydded iddynt hwy eich gwaredu chwi yn awr eich cyfyngdra.”

15. Yna dywedodd yr Israeliaid wrth yr ARGLWYDD, “Yr ydym wedi pechu; gwna inni beth bynnag a weli'n dda, ond eto gwared ni y tro hwn.”

16. Bwriasant y duwiau dieithr allan o'u plith, a gwasanaethu'r ARGLWYDD, ac ni allai yntau oddef adfyd Israel yn hwy.

17. Pan alwodd yr Ammoniaid eu milwyr ynghyd a gwersyllu yn Gilead, ymgasglodd yr Israeliaid hefyd a gwersyllu yn Mispa.

18. Dywedodd swyddogion byddin Gilead wrth ei gilydd, “Pwy bynnag fydd yn dechrau'r ymladd â'r Ammoniaid, ef fydd yn ben ar holl drigolion Gilead.”

Barnwyr 10