Barnwyr 10:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Ar ôl Abimelech, yr un a gododd i waredu Israel oedd Tola fab Pua, fab Dodo, dyn o Issachar a oedd yn byw yn Samir ym mynydd-dir Effraim.

2. Bu'n farnwr ar Israel am dair blynedd ar hugain; a phan fu farw, claddwyd ef yn Samir.

3. Ar ei ôl cododd Jair, brodor o Gilead. Bu'n farnwr ar Israel am ddwy flynedd ar hugain.

4. Yr oedd ganddo ddeg ar hugain o feibion a arferai farchogaeth ar ddeg ar hugain o asynnod; ac yr oedd ganddynt ddeg dinas ar hugain yn nhir Gilead; gelwir y rhain yn Hafoth-jair hyd heddiw.

Barnwyr 10