Barnwyr 1:31-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Ni ddisodlodd Aser drigolion Acco na thrigolion Sidon, nac Ahlab, Achsib, Helba, Affec na Rehob.

32. Bu'r Aseriaid yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad am nad oeddent wedi eu disodli.

33. Ni ddisodlodd Nafftali drigolion Beth-semes na thrigolion Beth-anath; buont yn byw ymysg y Canaaneaid oedd yn trigo yn y wlad, a bu trigolion Beth-semes a Beth-anath dan lafur gorfod iddynt.

34. Gwasgodd yr Amoriaid y Daniaid tua'r mynydd-dir oherwydd nid oeddent yn caniatáu iddynt ddod i lawr i'r gwastatir.

35. Daliodd yr Amoriaid eu tir ym Mynydd Heres ac Ajalon a Saalbim, ond pwysodd tylwyth Joseff yn drymach arnynt ac aethant dan lafur gorfod.

36. Yr oedd terfyn yr Amoriaid o riw Acrabbim, o Sela i fyny.

Barnwyr 1