Barnwyr 1:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Rhoesant Hebron i Caleb fel yr oedd Moses wedi addo, a gyrrodd ef oddi yno dri o'r Anaciaid.

21. Ond am y Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem, ni yrrodd y Benjaminiaid hwy allan; ac y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Benjaminiaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.

22. Aeth tylwyth Joseff i fyny yn erbyn Bethel, a bu'r ARGLWYDD gyda hwy.

23. Anfonodd tylwyth Joseff rai i wylio Bethel—Lus oedd enw'r ddinas gynt.

24. Pan welodd y gwylwyr ddyn yn dod allan o'r ddinas, dywedasant wrtho, “Dangos inni sut i fynd i mewn i'r ddinas, a byddwn yn garedig wrthyt.”

Barnwyr 1