12. Dywedodd Caleb, “Pwy bynnag a drawo Ciriath-seffer a'i hennill, fe roddaf fy merch Achsa yn wraig iddo.”
13. Othniel fab Cenas, brawd iau Caleb, a'i henillodd; rhoddodd yntau ei ferch Achsa yn wraig iddo.
14. Pan ddaeth hi ato, fe'i hanogodd i geisio tir amaeth gan ei thad. Wedi iddi ddisgyn oddi ar yr asyn, gofynnodd Caleb iddi, “Beth a fynni?”
15. Atebodd hithau, “Rho imi anrheg; yr wyt wedi rhoi imi dir yn y Negef; rho imi hefyd ffynhonnau dŵr.” Felly fe roddodd Caleb iddi'r Ffynhonnau Uchaf a'r Ffynhonnau Isaf.
16. Yr oedd disgynyddion y Cenead, tad-yng-nghyfraith Moses, wedi dod i fyny gyda'r Jwdeaid o Ddinas y Palmwydd i anialwch Jwda, sydd yn Negef Arad, ac wedi mynd i fyw ymysg y bobl.
17. Aeth Jwda gyda'i frawd Simeon a tharo'r Canaaneaid oedd yn byw yn Seffath, a difrodi'r ddinas a'i galw'n Horma.
18. Enillodd Jwda Gasa, Ascalon ac Ecron, a'r diriogaeth o amgylch pob un.
19. Yr oedd yr ARGLWYDD gyda Jwda, a meddiannodd y mynydd-dir, ond ni allodd ddisodli trigolion y gwastadedd am fod ganddynt gerbydau haearn.
20. Rhoesant Hebron i Caleb fel yr oedd Moses wedi addo, a gyrrodd ef oddi yno dri o'r Anaciaid.
21. Ond am y Jebusiaid oedd yn byw yn Jerwsalem, ni yrrodd y Benjaminiaid hwy allan; ac y mae'r Jebusiaid wedi byw gyda'r Benjaminiaid yn Jerwsalem hyd y dydd hwn.
22. Aeth tylwyth Joseff i fyny yn erbyn Bethel, a bu'r ARGLWYDD gyda hwy.
23. Anfonodd tylwyth Joseff rai i wylio Bethel—Lus oedd enw'r ddinas gynt.
24. Pan welodd y gwylwyr ddyn yn dod allan o'r ddinas, dywedasant wrtho, “Dangos inni sut i fynd i mewn i'r ddinas, a byddwn yn garedig wrthyt.”