1. Gwelais yr ARGLWYDD yn sefyll gerllaw'r allor, ac yn dweud,“Taro gapan y drws nes i'r rhiniogau ysgwyd,a maluria hwy ar eu pennau i gyd;y rhai a adewir, fe'u lladdaf â'r cleddyf;ni ffy yr un ohonynt ymaith,ni ddianc yr un ohonynt.
2. Pe baent yn cloddio hyd at Sheol,fe dynnai fy llaw hwy oddi yno;pe baent yn dringo i'r nefoedd,fe'u dygwn i lawr oddi yno.