Amos 5:18-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Gwae y rhai sy'n dyheu am ddydd yr ARGLWYDD!Beth fydd dydd yr ARGLWYDD i chwi?Tywyllwch fydd, nid goleuni;

19. fel pe bai dyn yn dianc rhag llew,ac arth yn ei gyfarfod;neu'n cyrraedd y tŷ ac yn rhoi ei law ar y pared,a neidr yn ei frathu.

20. Onid tywyllwch fydd dydd yr ARGLWYDD, ac nid goleuni;caddug, heb lygedyn golau ynddo?

21. “Yr wyf yn casáu, yr wyf yn ffieiddio eich gwyliau;nid oes imi bleser yn eich cymanfaoedd.

22. Er ichwi aberthu imi boethoffrymau a bwydoffrymau,ni allaf eu derbyn;ac nid edrychaf ar eich heddoffrymau o'ch pasgedigion.

Amos 5