Amos 5:13-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

13. Felly tawed y doeth ar y fath amser,canys amser drwg ydyw.

14. Ceisiwch ddaioni, ac nid drygioni,fel y byddwch fywac y bydd yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, gyda chwi,fel yr ydych yn honni ei fod.

15. Casewch ddrygioni, carwch ddaioni,gofalwch am farn yn y porth;efallai y trugarha'r ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd,wrth weddill Joseff.

16. Am hynny, fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Duw'r Lluoedd, yr Arglwydd:“Ym mhob sgwâr fe fydd wylo,ym mhob stryd fe ddywedant, ‘Och! Och!’Galwant ar y llafurwr i alaruac ar y galarwyr i gwynfan.

Amos 5