Amos 4:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Clywch y gair hwn, fuchod Basan,sydd ym mynydd Samaria,sy'n gorthrymu'r tlawd ac yn treisio'r anghenus,sy'n dweud wrth eu gwŷr, “Dewch â gwin, inni gael yfed”:

2. Tyngodd yr Arglwydd DDUW i'w sancteiddrwydd,“Fe ddaw, yn wir, ddyddiau arnochpan ddygir chwi i ffwrdd â bachau,a'r olaf ohonoch â bachau pysgota.

3. Ac ewch allan trwy'r bylchau,pob un ohonoch ar ei chyfer,ac fe'ch bwrir i Harmon,” medd yr ARGLWYDD.

Amos 4