Amos 2:4-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Jwda,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt wrthod cyfraith yr ARGLWYDD,a pheidio â chadw ei ddeddfau,a'u denu ar gyfeiliorn gan y celwyddaua ddilynwyd gan eu hynafiaid,

5. anfonaf dân ar Jwda,ac fe ddifa geyrydd Jerwsalem.”

6. Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD:“Am dri o droseddau Israel,ac am bedwar, ni throf y gosb yn ôl;am iddynt werthu'r cyfiawn am ariana'r anghenog am bâr o sandalau;

7. am eu bod yn sathru pen y tlawd i'r llwchac yn ystumio ffordd y gorthrymedig;am fod dyn a'i dad yn mynd at yr un llances,fel bod halogi ar fy enw sanctaidd;

Amos 2