9. “Cenfigennodd y patriarchiaid wrth Joseff a'i werthu i'r Aifft. Ond yr oedd Duw gydag ef,
10. ac achubodd ef o'i holl gyfyngderau, a rhoddodd iddo ffafr a doethineb yng ngolwg Pharo brenin yr Aifft, a gosododd yntau ef yn llywodraethwr dros yr Aifft a thros ei holl dŷ.
11. Daeth newyn ar yr Aifft i gyd ac ar Ganaan; yr oedd yn gyfyngder mawr, ac ni allai ein hynafiaid gael lluniaeth.
12. Ond clywodd Jacob fod bwyd yn yr Aifft, ac anfonodd ein tadau yno y tro cyntaf.
13. Yr ail dro fe adnabuwyd Joseff gan ei frodyr, a daeth tylwyth Joseff yn hysbys i Pharo.
14. Anfonodd Joseff, a galw Jacob ei dad ato, a'i holl berthnasau, yn saith deg pump o bobl i gyd.
15. Ac aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Bu farw ef a'n tadau,
16. a symudwyd hwy yn ôl i Sichem, a'u claddu yn y bedd yr oedd Abraham wedi ei brynu am arian gan feibion Emor yn Sichem.
17. “Fel yr oedd yr amser yn agosáu i gyflawni'r addewid yr oedd Duw wedi ei rhoi i Abraham, cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft,
18. nes i frenin gwahanol godi ar yr Aifft, un na wyddai ddim am Joseff.
19. Bu hwn yn ddichellgar wrth ein cenedl ni, gan gam-drin ein hynafiaid, a pheri bwrw eu babanod allan fel na chedwid mohonynt yn fyw.
20. Y pryd hwnnw y ganwyd Moses, ac yr oedd yn blentyn cymeradwy yng ngolwg Duw. Magwyd ef am dri mis yn nhŷ ei dad,
21. a phan fwriwyd ef allan, cymerodd merch Pharo ef ati, a'i fagu yn fab iddi hi ei hun.
22. Hyfforddwyd Moses yn holl ddoethineb yr Eifftwyr, ac yr oedd yn nerthol yn ei eiriau a'i weithredoedd.
23. “Yn ystod ei ddeugeinfed flwyddyn, cododd awydd arno i ymweld â'i gyd-genedl, plant Israel.
24. Pan welodd un ohonynt yn cael cam, fe'i hamddiffynnodd, a dialodd gam y dyn oedd dan orthrwm trwy daro'r Eifftiwr.
25. Yr oedd yn tybio y byddai ei bobl ei hun yn deall fod Duw trwyddo ef yn rhoi gwaredigaeth iddynt. Ond nid oeddent yn deall.
26. Trannoeth daeth ar draws dau ohonynt yn ymladd, a cheisiodd eu cymodi a chael heddwch, gan ddweud, ‘Ddynion, brodyr ydych; pam y gwnewch gam â'ch gilydd?’