Actau 7:15-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Ac aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Bu farw ef a'n tadau,

16. a symudwyd hwy yn ôl i Sichem, a'u claddu yn y bedd yr oedd Abraham wedi ei brynu am arian gan feibion Emor yn Sichem.

17. “Fel yr oedd yr amser yn agosáu i gyflawni'r addewid yr oedd Duw wedi ei rhoi i Abraham, cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft,

18. nes i frenin gwahanol godi ar yr Aifft, un na wyddai ddim am Joseff.

19. Bu hwn yn ddichellgar wrth ein cenedl ni, gan gam-drin ein hynafiaid, a pheri bwrw eu babanod allan fel na chedwid mohonynt yn fyw.

20. Y pryd hwnnw y ganwyd Moses, ac yr oedd yn blentyn cymeradwy yng ngolwg Duw. Magwyd ef am dri mis yn nhŷ ei dad,

Actau 7