Actau 7:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Daeth newyn ar yr Aifft i gyd ac ar Ganaan; yr oedd yn gyfyngder mawr, ac ni allai ein hynafiaid gael lluniaeth.

12. Ond clywodd Jacob fod bwyd yn yr Aifft, ac anfonodd ein tadau yno y tro cyntaf.

13. Yr ail dro fe adnabuwyd Joseff gan ei frodyr, a daeth tylwyth Joseff yn hysbys i Pharo.

14. Anfonodd Joseff, a galw Jacob ei dad ato, a'i holl berthnasau, yn saith deg pump o bobl i gyd.

15. Ac aeth Jacob i lawr i'r Aifft. Bu farw ef a'n tadau,

16. a symudwyd hwy yn ôl i Sichem, a'u claddu yn y bedd yr oedd Abraham wedi ei brynu am arian gan feibion Emor yn Sichem.

17. “Fel yr oedd yr amser yn agosáu i gyflawni'r addewid yr oedd Duw wedi ei rhoi i Abraham, cynyddodd y bobl a lluosogi yn yr Aifft,

18. nes i frenin gwahanol godi ar yr Aifft, un na wyddai ddim am Joseff.

19. Bu hwn yn ddichellgar wrth ein cenedl ni, gan gam-drin ein hynafiaid, a pheri bwrw eu babanod allan fel na chedwid mohonynt yn fyw.

Actau 7