Actau 6:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. A bu eu geiriau yn gymeradwy gan yr holl gynulleidfa, a dyma ddewis Steffan, gŵr llawn o ffydd ac o'r Ysbryd Glân, a Philip a Prochorus a Nicanor a Timon a Parmenas a Nicolaus, proselyt o Antiochia.

6. Gosodasant y rhain gerbron yr apostolion, ac wedi gweddïo rhoesant hwythau eu dwylo arnynt.

7. Yr oedd gair Duw'n mynd ar gynnydd. Yr oedd nifer y disgyblion yn Jerwsalem yn lluosogi'n ddirfawr, a thyrfa fawr o'r offeiriaid hefyd yn ufuddhau i'r ffydd.

8. Yr oedd Steffan, yn llawn gras a nerth, yn gwneud rhyfeddodau ac arwyddion mawr ymhlith y bobl.

9. Ond daeth rhai o'r synagog a elwid yn Synagog y Libertiniaid a'r Cyreniaid a'r Alexandriaid, a rhai o bobl Cilicia ac Asia, a dadlau â Steffan,

10. ond ni allent wrthsefyll y ddoethineb a'r Ysbryd yr oedd yn llefaru drwyddo.

11. Yna annog dynion a wnaethant i ddweud, “Clywsom ef yn llefaru pethau cableddus yn erbyn Moses ac yn erbyn Duw.”

12. A chynyrfasant y bobl a'r henuriaid a'r ysgrifenyddion, ac ymosod arno a'i gipio a dod ag ef gerbron y Sanhedrin,

Actau 6