Actau 5:22-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

22. Ond ni chafodd y swyddogion a ddaeth yno hyd iddynt yn y carchar. Daethant yn eu holau, ac adrodd,

23. “Cawsom y carchar wedi ei gloi yn gwbl ddiogel a'r gwylwyr yn sefyll wrth y drysau, ond wedi agor ni chawsom neb oddi mewn.”

24. A phan glywodd prif swyddog gwarchodlu'r deml, a'r prif offeiriaid, y geiriau hyn, yr oeddent mewn penbleth yn eu cylch, beth a allai hyn ei olygu.

25. Ond daeth rhywun a dweud wrthynt, “Y mae'r dynion a roesoch yn y carchar yn sefyll yn y deml ac yn dysgu'r bobl.”

Actau 5