Actau 4:34-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

34. Yn wir, nid oedd neb anghenus yn eu plith, oherwydd byddai pawb oedd yn berchenogion tiroedd neu dai yn eu gwerthu, yn dod â'r tâl am y pethau a werthid,

35. ac yn ei roi wrth draed yr apostolion; a rhennid i bawb yn ôl fel y byddai angen pob un.

36. Yr oedd Joseff, a gyfenwid Barnabas gan yr apostolion (sef, o'i gyfieithu, Mab Anogaeth), Lefiad, Cypriad o enedigaeth,

37. yn berchen darn o dir, a gwerthodd ef, a daeth â'r arian a'i roi wrth draed yr apostolion.

Actau 4