Actau 4:3-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Cymerasant afael arnynt a'u rhoi mewn dalfa hyd drannoeth, oherwydd yr oedd hi'n hwyr eisoes.

4. Ond daeth llawer o'r rhai oedd wedi clywed y gair yn gredinwyr, ac aeth eu nifer i gyd yn rhyw bum mil.

5. Trannoeth bu cyfarfod o lywodraethwyr a henuriaid ac ysgrifenyddion yr Iddewon yn Jerwsalem.

6. Yr oedd Annas yr archoffeiriad yno, a Caiaffas ac Ioan ac Alexander a phawb oedd o deulu archoffeiriadol.

7. Rhoesant y carcharorion i sefyll gerbron, a dechrau eu holi, “Trwy ba nerth neu drwy ba enw y gwnaethoch chwi hyn?”

8. Yna, wedi ei lenwi â'r Ysbryd Glân, dywedodd Pedr wrthynt: “Lywodraethwyr y bobl, a henuriaid,

9. os ydym ni heddiw yn cael ein croesholi am gymwynas i ddyn claf, a sut y mae wedi cael ei iacháu,

10. bydded hysbys i chwi i gyd ac i holl bobl Israel mai trwy enw Iesu Grist o Nasareth, a groeshoeliasoch chwi ac a gyfododd Duw oddi wrth y meirw, trwy ei enw ef y mae hwn yn sefyll ger eich bron yn iach.

11. Iesu yw“ ‘Y maen a ddiystyrwyd gennych chwi yr adeiladwyr,ac a ddaeth yn faen y gongl.’

12. “Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i'r ddynolryw, y mae'n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.”

Actau 4