Actau 3:23-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

23. A phob enaid na wrendy ar y proffwyd hwnnw, fe'i llwyr ddifodir o blith y bobl.’

24. A'r holl broffwydi o Samuel a'i olynwyr, cynifer ag a lefarodd, cyhoeddasant hwythau y dyddiau hyn.

25. Chwi yw plant y proffwydi, a phlant y cyfamod a wnaeth Duw â'ch tadau pan ddywedodd wrth Abraham, ‘Yn dy ddisgynyddion di y bendithir holl dylwythau'r ddaear.’

26. Wedi i Dduw gyfodi ei Was, anfonodd ef atoch chwi yn gyntaf, i'ch bendithio chwi trwy eich troi bob un oddi wrth eich drygioni.”

Actau 3