Actau 28:9-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Wedi i hyn ddigwydd, daeth y lleill yn yr ynys oedd dan afiechyd ato hefyd, a chael eu hiacháu.

10. Rhoddodd y bobl hyn anrhydeddau lawer inni, ac wrth inni gychwyn ymaith, ein llwytho â phopeth y byddai arnom ei angen.

11. Tri mis yn ddiweddarach, hwyliasom i ffwrdd mewn llong o Alexandria oedd wedi bwrw'r gaeaf yn yr ynys, a'r Efeilliaid Nefol yn arwydd arni.

12. Wedi cyrraedd Syracwsai, ac aros yno dridiau, hwyliasom oddi yno a dod i Rhegium.

13. Ar ôl diwrnod cododd gwynt o'r de, a'r ail ddydd daethom i Puteoli.

Actau 28