5. Yna, ysgydwodd ef y neidr ymaith i'r tân, heb gael dim niwed;
6. yr oeddent hwy'n disgwyl iddo ddechrau chwyddo, neu syrthio'n farw yn sydyn. Ar ôl iddynt ddisgwyl yn hir, a gweld nad oedd dim anghyffredin yn digwydd iddo, newidiasant eu meddwl a dechrau dweud mai duw ydoedd.
7. Yng nghyffiniau'r lle hwnnw, yr oedd tiroedd gan ŵr blaenaf yr ynys, un o'r enw Poplius. Derbyniodd hwn ni, a'n lletya yn gyfeillgar am dridiau.
8. Yr oedd tad Poplius yn digwydd bod yn gorwedd yn glaf, yn dioddef gan byliau o dwymyn a chan ddisentri. Aeth Paul i mewn ato, a chan weddïo a rhoi ei ddwylo arno, fe'i hiachaodd.
9. Wedi i hyn ddigwydd, daeth y lleill yn yr ynys oedd dan afiechyd ato hefyd, a chael eu hiacháu.
10. Rhoddodd y bobl hyn anrhydeddau lawer inni, ac wrth inni gychwyn ymaith, ein llwytho â phopeth y byddai arnom ei angen.
11. Tri mis yn ddiweddarach, hwyliasom i ffwrdd mewn llong o Alexandria oedd wedi bwrw'r gaeaf yn yr ynys, a'r Efeilliaid Nefol yn arwydd arni.
12. Wedi cyrraedd Syracwsai, ac aros yno dridiau, hwyliasom oddi yno a dod i Rhegium.
13. Ar ôl diwrnod cododd gwynt o'r de, a'r ail ddydd daethom i Puteoli.
14. Yno cawsom hyd i gydgredinwyr, a gwahoddwyd ni i aros gyda hwy am saith diwrnod. A dyna sut y daethom i Rufain.
15. Pan glywodd y credinwyr yno amdanom, daethant allan cyn belled â Marchnad Apius a'r Tair Tafarn i'n cyfarfod. Pan welodd Paul hwy, fe ddiolchodd i Dduw, ac ymwrolodd.
16. Pan aethom i mewn i Rufain fe ganiatawyd i Paul letya ar ei ben ei hun, gyda'r milwr oedd yn ei warchod.
17. Ymhen tridiau, galwodd Paul ynghyd yr arweinwyr ymysg yr Iddewon. Wedi iddynt ddod at ei gilydd, dywedodd wrthynt, “Er nad wyf fi, frodyr, wedi gwneud dim yn erbyn fy mhobl na defodau'r hynafiaid, cefais fy nhraddodi yn garcharor o Jerwsalem i ddwylo'r Rhufeiniaid.
18. Yr oeddent hwy, wedi iddynt fy holi, yn dymuno fy ngollwng yn rhydd, am nad oedd dim rheswm dros fy rhoi i farwolaeth.
19. Ond oherwydd gwrthwynebiad yr Iddewon, cefais fy ngorfodi i apelio at Gesar; nid bod gennyf unrhyw gyhuddiad yn erbyn fy nghenedl.
20. Dyna'r rheswm, ynteu, fy mod wedi gofyn am eich gweld a chael ymddiddan â chwi; oherwydd o achos gobaith Israel y mae gennyf y gadwyn hon amdanaf.”