23. Oherwydd neithiwr safodd yn fy ymyl angel y Duw a'm piau, yr hwn yr wyf yn ei addoli,
24. a dweud, ‘Paid ag ofni, Paul; y mae'n rhaid i ti sefyll gerbron Cesar, a dyma Dduw o'i ras wedi rhoi i ti fywydau pawb o'r rhai sy'n morio gyda thi.’
25. Felly codwch eich calonnau, ddynion, oherwydd yr wyf yn credu Duw, mai felly y bydd, fel y dywedwyd wrthyf.
26. Ond y mae'n rhaid i ni gael ein bwrw ar ryw ynys.”
27. Daeth y bedwaredd nos ar ddeg, a ninnau'n dal i fynd gyda'r lli ar draws Môr Adria. Tua chanol nos, dechreuodd y morwyr dybio fod tir yn agosáu.
28. Wedi plymio, cawsant ddyfnder o ugain gwryd, ac ymhen ychydig, plymio eilwaith a chael pymtheg gwryd.
29. Gan fod arnynt ofn inni efallai gael ein bwrw ar leoedd creigiog, taflasant bedair angor o'r starn, a deisyf am iddi ddyddio.
30. Dechreuodd y morwyr geisio dianc o'r llong, a gollwng y bad i'r dŵr, dan esgus mynd i osod angorion o'r pen blaen.
31. Ond dywedodd Paul wrth y canwriad a'r milwyr, “Os na fydd i'r rhain aros yn y llong, ni allwch chwi gael eich achub.”
32. Yna fe dorrodd y milwyr raffau'r bad, a gadael iddo gwympo ymaith.