Actau 27:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. a'r trydydd dydd, lluchio gêr y llong i ffwrdd â'u dwylo eu hunain.

20. Ond heb na haul na sêr i'w gweld am ddyddiau lawer, a'r storm fawr yn dal i'n llethu, yr oedd pob gobaith am gael ein hachub bellach yn diflannu.

21. Yna, wedi iddynt fod heb fwyd am amser hir, cododd Paul yn eu canol hwy a dweud: “Ddynion, dylasech fod wedi gwrando arnaf fi, a pheidio â hwylio o Creta, ac arbed y difrod hwn a'r golled.

22. Ond yn awr yr wyf yn eich cynghori i godi'ch calon; oherwydd ni bydd dim colli bywyd yn eich plith chwi, dim ond colli'r llong.

Actau 27