Actau 25:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Yna, wedi iddo drafod y mater â'i gynghorwyr, atebodd Ffestus: “At Gesar yr wyt wedi apelio; at Gesar y cei fynd.”

13. Ymhen rhai dyddiau daeth y Brenin Agripa a Bernice i lawr i Gesarea i groesawu Ffestus.

14. A chan eu bod yn treulio dyddiau lawer yno, cyflwynodd Ffestus achos Paul i sylw'r brenin. “Y mae yma ddyn,” meddai, “wedi ei adael gan Ffelix yn garcharor,

15. a phan oeddwn yn Jerwsalem gosododd y prif offeiriaid a henuriaid yr Iddewon ei achos ef ger fy mron, a gofyn am ei gondemnio.

16. Atebais hwy nad oedd yn arfer gan Rufeinwyr drosglwyddo unrhyw un fel ffafr cyn bod y cyhuddedig yn dod wyneb yn wyneb â'i gyhuddwyr, ac yn cael cyfle i'w amddiffyn ei hun yn erbyn y cyhuddiad.

Actau 25