Actau 25:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Felly, dridiau wedi i Ffestus gyrraedd ei dalaith, aeth i fyny i Jerwsalem o Gesarea,

2. a gosododd y prif offeiriaid ac arweinwyr yr Iddewon eu hachos yn erbyn Paul ger ei fron.

3. Yr oeddent yn ceisio gan Ffestus eu ffafrio hwy yn ei erbyn ef, yn deisyf arno i anfon amdano i Jerwsalem, ac ar yr un pryd yn gwneud cynllwyn i'w ladd ar y ffordd.

4. Atebodd Ffestus, fodd bynnag, fod Paul dan warchodaeth yng Nghesarea, a'i fod ef ei hun yn bwriadu cychwyn i ffwrdd yn fuan.

Actau 25